logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau

Newyddion

Newyddion Cyfredol : Newyddion Archif

Efallai bydd angen Acrobat Reader arnoch i lwytho’r dogfennau isod i lawr i’w hargraffu.           
Cliciwch ar y botwm isod os oes angen Acrobat Reader arnoch, a dilynwch y cyfarwyddiadau llwytho i lawr.

Download Acrobat

     

Sgiliau Iechyd Fframwaith DANOS

Ar hyn o bryd mae Sgiliau Iechyd ar ganol ailwampio eu gwefan ac efallai y cewch chi broblemau wrth geisio dod o hyd i ddadansoddiadau Sgiliau Iechyd DANOS ym mhecyn y Ganolfan oherwydd hyn. Cewch eich cyfeirio at wefan Sgiliau Iechyd a bydd wedyn angen i chi glicio ar yr URL i weld y dadansoddiad llawn o’r cymhwysedd rydych chi’n chwilio amdano. Fel arall, cliciwch ar yr hyperddolen isod a fydd yn mynd â chi i leoliad newydd y safonau ar wefan Sgiliau Iechyd.

Sgiliau Iechyd Fframwaith DANOS

     

Yr Allwedd i Fidio Llwyddiannus

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i alinio gweithgarwch datblygu gweithluoedd yn y maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC). Mewn ymateb i hyn, mae Comisiynwyr yn edrych fwyfwy at fudiadau sy’n gallu dangos eu bod yn defnyddio SGC, yn enwedig y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol (DANOS), pan fyddant yn comisiynu gwasanaethau.

Mae dogfennau tendro’n gyfle ardderchog i ddangos sut mae eich mudiad yn defnyddio SGC ar lefelau strategol, gweithredol a rheoli ac mae’r ganolfan wedi creu canllaw y gellir ei lawrlwytho, o’r enw “Yr Allwedd i Fidio Llwyddiannus”, sy’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddangos tystiolaeth eich bod yn defnyddio dull integredig o gymhwyso SGC yn eich mudiad.
     

Pecyn Datblygu Gweithlu ar gael yn awr

Mae’r Pecyn Datblygu Gweithlu a grëwyd gan y Ganolfan ar gael yn awr ar y wefan hon. Crëwyd y Pecyn yn dilyn ymchwil helaeth a chyfweliadau gyda gweithwyr ar draws y maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae felly wedi’i gynllunio’n benodol i’w ddefnyddio yn y maes. Mae modd gweld y cyfryngau yn yr adran 'Gwybodaeth a Chyfryngau' ar wefan DATOracle a gellir eu llwytho i lawr a’u haddasu i ddiwallu’ch anghenion. Mae’r pecyn yn cynnwys y canlynol: 
  1. Proffiliau Rôl Generig
  2. Teclyn Mapio
  3. Teclyn Asesu
  4. Templed o Gynllun Datblygu Personol
  5. Canllawiau ynghylch Profi Cymhwysedd
  6. Ffurflen Gwerthuso Hyfforddiant a Holiadur Effaith Hyfforddiant

 


Canllawiau ynghylch Profi Cymhwysedd

Mae’r Ganolfan wedi cynhyrchu ‘Canllawiau ynghylch Profi Cymhwysedd’ mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae’r canllawiau ar gael yma (atodiadau) ac maent yn arfogi gweithwyr yn y maes camddefnyddio sylweddau â gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sy’n cyfateb i dystiolaeth briodol, oddrychol o ansawdd da i ddangos cymhwysedd yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol priodol ar gyfer swyddogaethau gweithwyr unigol.

 

 

Ydy'r gweithlu yn cyrraedd y safon ofynnol? - Mae’r ddadl yn parhau ......

Yn Drinks and Drug News yn ddiweddar, cyhoeddwyd erthygl gan yr Athro Neil McKeganey a fu’n dadlau y dylai oedolion diymgeledd, h.y. camddefnyddwyr sylweddau, gael eu trin gan weithwyr proffesiynol cydnabyddedig. Mae’n ddeunydd darllen grymus, mae’r erthygl ar gael yma.


Cafwyd ymateb da i’r erthygl hon ar y blog Wired In, gan ganolbwyntio ar safon gweithwyr ym maes camddefnyddio sylweddau. Cliciwch yma i ddarllen yr ymatebion a dweud eich dweud.

     

Ydych chi am fod yn well rheolwr?

Mae rôl rheolwr yn amrywiol iawn, ond mae un amcan yn bwysicach na dim arall, sef ychwanegu gwerth at y sefydliad a'i helpu i gyflawni ei nodau strategol. Mae www.beabettermanager.co.uk yn helpu i sicrhau bod rheolwyr yn gallu parhau i gyfrannu gwerth at y sefydliad. Mae'r wefan hon yn dangos yn union beth yw rheoli effeithiol mewn swyddogaethau rheoli allweddol, sef:

  • Arwain
  • Strategaeth
  • Prosesau a phrosiectau
  • Pobl
  • Adnoddau ymarferol
  • Adnoddau ariannol
  • Gwybodaeth a dysg
  • Yr hunan
     

 Beth am gymryd cip ar ein e-fwletin

Mae Canolfan Gydweithredol a Rhwydwaith Cymru gyfan er Hyrwyddo Rhagoriaeth ar gyfer Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad ym maes Camddefnyddio Sylweddau yn awyddus iawn i hysbysu’r maes camddefnyddio sylweddau o ba mor bwysig yw datblygu'r gweithlu yn unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Alcohol a Chyffuriau (DANOS). Mae’r Ganolfan newydd ryddhau’r ail e-fwletin mewn cyfres sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r maes am weithgareddau allweddol y Ganolfan ac yn rhoi sylw i unrhyw newyddion sy'n berthnasol i'r maes. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am -

  • Cynyddu cyfleoedd dysgu a datblygu yn eich sefydliad
  • Datblygu rheolwyr
  • Gweithredu ‘Pecyn Datblygu'r Gweithlu' y Ganolfan
  • Sut mae defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i ymateb i dendrau
  • Dweud eich dweud – adborth o’r maes

Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau’r ail rifyn hwn a byddwn yn croesawu unrhyw ymateb gennych. Cliciwch yma ar gyfer ein e-fwletin



     

Y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig

Ddim yn gwybod pa gymhwyster y mae ei angen arnoch? Does dim angen chwilio ymhellach -

Cronfa ddata gynhwysfawr yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig sy’n cynnwys manylion y cymwysterau achrededig sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y DU. I helpu defnyddwyr y gronfa ddata i ddod o hyd i gymwysterau sydd fwyaf addas iddynt, gellir chwilio’r gronfa ddata yn ôl y math o gymhwyster neu lefel h.y. NVQ, Diploma a chorff dyfarnu. Hefyd, gall y defnyddwyr chwilio am gymwysterau sy'n gysylltiedig â sectorau, meysydd neu alwedigaethau penodol.

I fynd i’r gronfa ddata ewch i wefan y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig .

     

Rhoi hyfforddiant i reolwyr yw’r ffordd orau o hybu cynhyrchiant ....

Yn ôl arolwg o 75 o gyflogwyr ledled y DU (Adolygiad Cyflogaeth 2008), rhoi hyfforddiant i reolwyr yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gynyddu cynhyrchiant yn y gweithle. Yn unol ag ymchwil o’r fath, un o brif feysydd gwaith Cangen Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw datblygu sgiliau ar gyfer rheolwyr ym maes camddefnyddio sylweddau.

Yn ystod mis Tachwedd 2007, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru waith ymchwil a fu’n casglu gwybodaeth am yr holl gymwysterau y gall rheolwyr ym maes camddefnyddio sylweddau eu cyflawni. Arweiniodd hyn at greu cronfa ddata ac mae modd gweld a chwilio drwy’r gronfa hon drwy ddilyn y ddolen isod. Cronfa Ddata Nodiadau ar y Gronfa

Ym mis Mawrth 2008, ehangwyd ar y gwaith cychwynnol hwn ar ddatblygu rheolwyr drwy gynnal cyfres o weithdai ledled Cymru, a fynychwyd gan reolwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Bu’r gweithdai hyn yn edrych ar rôl rheolwyr mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a’r hyn a oedd yn gyffredin yn y tasgau a wneir gan reolwyr mewn gwahanol wasanaethau. Cynhelir ail gyfres o weithdai yn ystod Hydref 2008, a bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth a hyfforddiant ar faterion rheoli penodol i’r sawl a fydd yn eu mynychu.


     

Cyrsiau Hyfforddi

Ydych chi’n cael trafferth i ddod o hyd i gwrs hyfforddi i ddiwallu eich anghenion? Os felly, cysylltwch â ni a byddwn yn troi at ddarparwyr hyfforddiant i weld a allant ddiwallu eich anghenion.

 

E-hysbys Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder

Mae’r e-fwletin misol diddorol yn llawn gwybodaeth ac yn canolbwyntio ar faterion datblygu gweithlu. Mae hefyd yn tynnu sylw at wybodaeth am Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a chymwysterau a hyfforddiant newydd sydd ar gael i’r Sector Cyfiawnder Troseddol. I gael yr e-fwletin diweddaraf, cliciwch yma.

     

Adolygiad Diweddar SGCCA


Diweddariad 2007

Cynhaliodd Sgiliau Iechyd adolygiad yn ddiweddar o fframwaith y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol (DANOS) fel rhan o adolygiad o'i holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC).  Prif bwrpas yr adolygiad hwn oedd adlewyrchu’r newidiadau a fu yn y SGCau dros y ddwy flynedd diwethaf.  Mae Sgiliau Iechyd, fel pob Cyngor Sgiliau Sector, yn ymdrechu i sicrhau bod ei holl gynnyrch wedi'i ddiweddaru ac yn berthnasol i'r sector y mae'n ei gefnogi. Felly, mae adolygiadau o SGCau a Chymwysterau yn rhan bwysig o'r swyddogaeth hon.

Yn hanesyddol, roedd y gyfres DANOS yn cynnwys SGCau o nifer o wahanol gyfresi eraill, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Rheolaeth ac Arweinyddiaeth. Rhoddwyd labeli cod DANOS i'r cyfresi hyn (e.e. AA2).  Roedd y gyfres DANOS hefyd yn cynnwys safonau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y gweithlu Camddefnyddio Sylweddau. 

O ganlyniad i’r ymarfer hwn, byddwch yn dal i allu cael gafael ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) gwreiddiol a ffurfiodd y gyfres DANOS yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, fe sylwch ar rai newidiadau, gan gynnwys:-

1) Mae rhai o’r SGCau wedi aros yr un fath o ran eu cynnwys a’u label cod (y llythrennau o flaen y safon, e.e. AA1).
2) Mae label cod rhai o’r SGCau wedi newid am fod y gwreiddiol erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio, e.e. newidiodd AA2 i HSC233 (Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
3) Mae rhai o’r SGCau a fewngludwyd i fframwaith DANOS wedi’u diweddaru gan y sector â’u gwnaeth yn y lle cyntaf. Mae’r cymwyseddau sydd wedi’u diweddaru felly wedi cael eu cynnwys ac wedi cael eu label cod gwreiddiol e.e. newidiodd AD2 i ENTO L10.    
4) Newidiwyd rhai o'r safonau DANOS gwreiddiol yn rhai mwy generig fel eu bod yn cyd-fynd â dulliau Sgiliau Iechyd, ac o ganlyniad rhoddwyd label cod GEN neu CHS iddynt, e.e. newidiodd AC2 i GEN36 a AH5 i CHS12.
5) Yn olaf, rhannwyd rhai o'r SGCau yn nifer o SGCau llai o ganlyniad i newidiadau yn y safon wreiddiol, e.e. newidiodd AH8 i Pharm 07, 08, 09, 10, 11.
Ceir crynodeb o’r newidiadau yn y gyfres DANOS yn y ddogfen sydd ynghlwm. Gellir cael gafael ar y ddogfen drwy glicio yma .

Mae’n bwysig nodi nad oes angen i sefydliadau nac unigolion gynnal adolygiad arbennig o bethau megis cyrsiau hyfforddi, proffiliau swyddi, dogfennau gwerthuso/CDP ayyb yng ngoleuni’r newidiadau diweddar hyn.  Fodd bynnag, argymhellir y dylid adlewyrchu’r newidiadau hyn yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn unrhyw ddogfennau o’r fath pryd bynnag fydd hyn yn gyfleus i chi.

Angela Sharp
Rheolwraig Ymyriadau Gweithlu

 

Gradd Sylfaen FdA newydd mewn Camddefnyddio Sylweddau

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor lansio gradd sylfaen newydd mewn camddefnyddio sylweddau.

Bydd y rhaglen o werth i unrhyw un sy'n gweithio ar hyn o bryd ym maes Camddefnyddio Sylweddau, sydd gyda phrofiad ymarferol ond y byddai'r fframwaith theoretig yn eu galluogi I ehangu eu gwybodaeth a chael sgiliau ymarfer ychwanegol. Byddai'r rhaglen hon yn addas hefyd ar gyfer y rhai a hoffai ddatblygu eu gyrfa yn y maes hwn neu efallai awydd cymryd rhai o'r modiwlau unigol sydd o ddiddordeb arbennig.

Mae'r rhaglen wedi ei seilio ar wybodaeth o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar Gyffuriau ac Alcohol (DANOS), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a'r Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau, ac mae hefyd yn cynnwys Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder a Sgiliau ar gyfer. Gofal a Datblygiad (Cyngor Gofal Cymru). Diben hyn yw er mwyn rhoi i unigolion y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflwyno a dehongli tystiolaeth yn unol â Safonau Galwedigaethol y Sector

I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am y radd hon, cliciwch yma: http://www.bangor.ac.uk/ll/ptquals/fdamisuse.php.en

 

Dyfarniad / Tystysgrif mewn Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau

Mae Sgiliau ar gyfer Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder, mewn partneriaeth ag Edexcel a City & Guilds, wedi creu ystod o gymwysterau newydd ar gyfer y gweithlu camddefnyddio sylweddau.
Lluniwyd y cymwysterau drwy ymgynghori’n helaeth ag aseswyr a staff camddefnyddio sylweddau proffesiynol, a phenderfynwyd eu galw’n ‘Dyfarniad mewn Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau’ a ‘Tystysgrif mewn Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau. Gellir cyflawni’r cymwysterau ar Lefel 3 neu Lefel 4.
Roedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn bwynt cyfeirio pwysig wrth ddatblygu’r unedau o fewn y cymwysterau, sy’n dod o fewn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCC). Am fwy o wybodaeth am y dyfarniad yma, cliciwch yma.

Substance Misuse Centre Guide

Substance Misuse Employer Guide

Substance Misuse Learner Guide


 


Dyfarniad Newydd i Gynghorwyr Camddefnyddio Sylweddau

Mae’n bleser gan Alcohol Concern a FDAP lansio dyfarniad i gynghorwyr sy’n newydd i’r maes camddefnyddio sylweddau a chydnabod yr hyfforddiant a’r cynghori a wnaethant.                   

Mae’r Dystysgrif gyflwyniadol i Gynghorwyr Cyffuriau ac Alcohol yn dystysgrif broffesiynol gan FDAP ac Alcohol Concern, a anelir at gynghorwyr dan hyfforddiant a chynghorwyr gwirfoddol sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyffuriau ac alcohol. Mae’r dystysgrif yn cydnabod bod cynghorwyr newydd wedi cael digon o hyfforddiant a goruchwyliaeth i gyrraedd safonau cenedlaethol.   

Am fwy o fanylion ewch i:
http://www.alcoholconcern.org.uk/servlets/doc/1177
I lwytho’r ffurflenni priodol i lawr, ewch i:            
http://www.fdap.org.uk/certification/intro_cert.html
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Don Shenker, Cyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau yn Alcohol Concern - dshenker@alcoholconcern.org.uk

 
  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo