Pecyn Datblygu’r Gweithlu
Gall meddwl am ddefnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) fod yn ddigon i godi ofn ar weithwyr a rheolwyr fel ei gilydd. Ein nod yw eich helpu i ddefnyddio NOS mewn ffordd syml. Mae’r wybodaeth a’r cyfryngau a welir isod wedi'u creu gan y Ganolfan er mwyn eich helpu i ddefnyddio NOS, yn enwedig DANOS. Edrychwch ar ein Canllaw Cam wrth Gam i Ddefnyddio Pecyn Datblygu Gweithlu’r Ganolfan i gael gwybod mwy am sut mae defnyddio ein cyfryngau
Mae’r Ganolfan wedi datblygu 5 proffil rôl generig a grëwyd drwy gyfrwng cyfweliadau helaeth gyda gweithwyr ym maes camddefnyddio sylweddau ledled Cymru. Maent felly’n cynnwys nifer fawr o safonau oherwydd fe’u bwriedir i gynrychioli mwyafrif rolau’r gweithwyr ym maes camddefnyddio sylweddau. Y proffiliau rôl yw:
Dewiswch y proffil rôl generig sydd fwyaf perthnasol i’ch swydd. Adolygwch y proffil hwn – gyda’ch rheolwr/wraig llinell, yn ddelfrydol. Dylid ystyried dau gwestiwn wrth gynnal yr adolygiad hwn:
- A oes unrhyw beth yn y proffil rôl hwn sy’n amherthnasol i’ch rôl? Os oes, dilëwch y safonau amherthnasol hynny.
- A oes agweddau ar eich rôl benodol na chawsant eu cynnwys yn y proffil rôl fel y mae ar hyn o bryd? Os felly, defnyddiwch Declyn Mapio y Ganolfan i ganfod y safonau DANOS sy’n berthnasol i’ch swydd benodol, ond na chawsant eu cynnwys yn y proffil rôl fel y mae ar hyn o bryd. Ychwanegwch unrhyw safonau newydd at y proffil rôl.
SYLWER: Pan fyddwch yn penderfynu a ddylid cynnwys safon benodol yn y proffil rôl ai peidio, dylech gyfeirio at y dadansoddiad cyflawn o’r safon oherwydd gall teitlau rhai o’r safonau fod yn gamarweiniol. Gellir dod o hyd i ddadansoddiad cyflawn o bob safon yn Fframwaith Sgiliau ar gyfer Iechyd DANOS.
Adolygwch eich proffil rôl gorffenedig i sicrhau ei fod yn gywir. Gofynnwch i’ch rheolwr/wraig wneud yr un fath.
Defnyddiwch eich proffil rôl gorffenedig i asesu lle’r ydych yn bodloni gofynion eich rôl, a lle nad ydych yn gwneud hynny. Ble mae’r bylchau yn eich gallu a'ch cymhwysedd? Pa safonau y mae angen i chi eu datblygu? Gallwch ddefnyddio Teclyn Asesu DANOS y Ganolfan i’ch helpu i wneud hyn. Mae’n bosibl bod gan eich sefydliad eisoes system gwerthuso perfformiad debyg ar waith y gallech ei defnyddio.
Defnyddiwch ganlyniadau’r Teclyn Asesu DANOS i ffurfio Cynllun Datblygu. Cliciwch yma i weld templed o Gynllun Datblygu. Gan ddefnyddio eich Cynllun Datblygu, gallwch drefnu eich gweithgareddau hyfforddi ac addysg. Gall pobl ddysgu sgiliau a gwybodaeth ychwanegol mewn amryw o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys:
- Arsylwi arferion pobl eraill, a chael pobl eraill i arsylwi eich arferion chi
- Adolygu ac ymchwilio i ddogfennau
- Mentora
- Mynychu cynadleddau, gweithdai ac arddangosfeydd proffesiynol
- Ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol. Defnyddiwch ein Cyfeiriadur Hyfforddi i ganfod cyrsiau a fydd yn bodloni’ch anghenion hyfforddi.
PWYSIG:Bydd hyfforddiant ffurfiol ond yn fanteisiol i chi os defnyddiwch yr hyn a ddysgwch yn eich arferion dyddiol. Felly, mae’n hanfodol eich bod chi a'ch rheolwr/wraig yn gwerthuso effaith yr hyfforddiant ar eich arferion o fewn tri mis i chi gael yr hyfforddiant. I weld cwestiynau allweddol i'w gofyn wrth werthuso, cliciwch yma.
Cofiwch fod modd dysgu llawer mewn ffordd anffurfiol yn sgil profiadau a heriau a wynebir drwy arferion o ddydd i ddydd. I gael syniadau pellach am sut y gellir defnyddio arferion o ddydd i ddydd i lunio tystiolaeth sy’n dangos eich cymhwysedd DANOS, cyfeiriwch at Ganllawiau’r Ganolfan ar gyfer Profi Cymhwysedd - Cliciwch yma (atodiadau)
Edrychwch ar eich Cynllun Datblygu yn gyson i asesu eich cynnydd a’ch anghenion datblygu parhaus. Bydd adolygu’r cynllun datblygu’n rheolaidd hefyd yn hybu ac yn cynorthwyo’r broses datblygiad proffesiynol parhaus, rhywbeth sy’n hanfodol i ddatblygiad eich gyrfa am ei fod yn cynnig camau clir i’w cymryd er mwyn symud ymlaen yn eich maes.
Mae rôl rheolwyr wrth gefnogi datblygiad gweithwyr ac asesu eu cymhwysedd yn allweddol i reoli perfformiad yn llwyddiannus. Bydd ein 'Canllawiau ar gyfer Profi Cymhwysedd ar gyfer Rheolwyr'(atodiadau) yn cynorthwyo rheolwyr i helpu datblygiad proffesiynol eu staff. Mae’r Canllawiau hyn yn cynnig cyngor ymarferol ac awgrymiadau i reolwyr i’w galluogi i asesu cymhwysedd a pherfformiad eu staff, gan gynnwys sesiynau Holi ac Ateb ac arsylwi.
I gael gwybod rhagor am sut mae defnyddio Pecyn Datblygu’r Gweithlu, cliciwch yma
Monitro Effaith yr Hyfforddiant a’r Asesu
Mae cael ffurflen werthuso/adborth gan staff yn gallu bod yn gam pwysig wrth bwyso a mesur a fu’r hyfforddiant yn llwyddiannus ai peidio o ran delio ag anghenion dysgu’r staff. Fodd bynnag, nid y gwerthuso a’r adborth ddylai fod y cam olaf yn y broses wrth asesu pa mor effeithiol yw hyfforddiant.
Er mwyn cael darlun llawn o effaith hyfforddiant ar arferion staff, argymhellir eich bod yn cynnal asesiad dri mis ar ôl yr hyfforddiant. Mae’r Ganolfan wedi creu Holiadur Effaith Hyfforddiant i gynorthwyo rheolwyr a staff i benderfynu a oedd yr hyfforddiant a gafodd y staff yn llwyddiannus ac yn ymarferol, ac yn y pen draw, a oedd yn ffordd dda o ddefnyddio adnoddau’r sefydliad. Ni fwriedir i’r holiadur fod yn rhestr lawn o gwestiynau i’w hystyried. Mae’n bosibl y bydd cwestiynau ychwanegol sy’n berthnasol i’ch sefydliad, ac mae croeso i chi ddiwygio’r holiadur i ddiwallu eich anghenion penodol.
Dadansoddi Anghenion Hyfforddi
Cyn rhoi unrhyw fath o hyfforddiant ar waith, mae’n hanfodol bod anghenion hyfforddi unigolyn neu grŵp yn cael eu canfod yn gywir. Mae Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi (DAH) yn ffordd systematig o ganfod anghenion hyfforddi.
Dyma fanteision cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn dda:
- Gellir cysylltu’r hyfforddiant yn uniongyrchol ag amcanion y sefydliad
- Gall hyfforddiant ganiatáu i asesiadau ganfod a oes gan y sefydliad y sgiliau sy'n angenrheidiol i wireddu ei nodau tymor byr a thymor hir
- Gellir targedu hyfforddiant ar gyfer gofynion penodol
- Gellir canfod anghenion hyfforddi a’u blaenoriaethu
- Gall hyfforddwyr dreulio eu hamser ar weithgareddau mwy cynhyrchiol
- Gall cyfranogwyr dreulio eu hamser ar raglenni sy'n addas iddynt
- Gellir osgoi hyfforddiant sy'n gyfyngedig o ran ei werth
- Gellir clustnodi adnoddau ariannol yn fwy effeithiol ac effeithlon
- Gellir teilwra hyfforddiant yn ofalus yn ôl gofynion
Manteision Cystadleuol DAH
Bydd cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn helpu sefydliad i fod yn fwy cystadleuol:
- Mae'n bosibl mai hyfforddi ar raddfa gyflymach na'ch cystadleuwyr yw’r unig fantais gystadleuol gynaliadwy
- Gall adnoddau prin ganolbwyntio’n fwy cywir ar feysydd sy’n allweddol i sicrhau llwyddiant
- Gall buddsoddi mewn pobl arwain at gynyddu eu gwerth, yn hytrach na buddsoddiad cyfalaf sy’n colli gwerth dros amser
- Sefydliadau llwyddiannus y dyfodol yw’r rheini a all fanteisio ar allu pobl i ddysgu
- Mae’n debyg mai dysgu yw'r strategaeth hirdymor orau ar gyfer sicrhau llwyddiant y sefydliad
Sut mae cynnal DAH
Mae’n rhaid i’r amcanion busnes fod yn glir o’r cychwyn cyntaf cyn cynnal DAH er mwyn gallu ffurfio casgliadau sy’n angenrheidiol i’r sefydliad mewn ffordd ddibynadwy Gall rheolwr/wraig yr unigolyn, neu’r unigolyn ei hun, gynnal DAH ar ei gyfer.
Dylai unigolion fesur eu hunain yn erbyn y cymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer y swydd. Gellir dod o hyd i’r rhain mewn disgrifiadau swydd ac mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol yn un o nifer o setiau Safonau a all fod yn berthnasol i swydd yr unigolyn.
Gall unigolion asesu beth yw eu cryfderau a'u gwendidau yn unol â'r cymwyseddau sy’n angenrheidiol i berfformio’n effeithiol yn eu rôl. Yn dilyn hyn, gall unigolion gasglu beth fydd angen ei ddysgu a'i ddatblygu er mwyn iddynt fod yn gwbl effeithiol yn eu rôl.
Dyma rai o’r cwestiynau pellach y byddai unigolion o bosibl am eu hystyried tra byddant yn asesu eu hanghenion hyfforddi:
- Beth yw eich cryfderau a'ch gwendidau?
- Sut ydych chi’n bwriadu mynd i’r afael â’r gwendidau hyn?
- Pa newidiadau sy'n digwydd ym maes eich arbenigedd proffesiynol?
- Sut ydych chi’n bwriadu diweddaru a chynnal eich safonau proffesiynol?
- Pa hyfforddiant ydych chi wedi’i gael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
- Oes gennych ddewis wrth benderfynu pa gyrsiau hyfforddi rydych chi’n credu y mae arnoch eu hangen?
- Sut mae eich hyfforddiant yn cysylltu ag amcanion y sefydliad?
- A ddefnyddir eich sgiliau'n effeithiol yn y sefydliad?
- A fyddwch chi’n trafod eich anghenion hyfforddi gyda’ch rheolwr(wraig) llinell / adran hyfforddi?
- Oes gennych chi gynllun datblygu gyrfa?
- Oes gennych chi gynllun datblygu personol?
- A yw’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol gennych i’ch galluogi i gael swydd arall os bydd eich swydd bresennol yn dod i ben, neu os byddwch yn dewis gweithio i gyflogwr gwahanol?
Yn ein Cyfeiriadur Hyfforddi, ceir manylion nifer o gyrsiau hyfforddi sy’n berthnasol i’r rheini sy’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau.
Yr Allwedd i Fidio Llwyddiannus
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i alinio gweithgarwch datblygu gweithluoedd yn y maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC). Mewn ymateb i hyn, mae Comisiynwyr yn edrych fwyfwy at fudiadau sy’n gallu dangos eu bod yn defnyddio SGC, yn enwedig y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol (DANOS), pan fyddant yn comisiynu gwasanaethau.
Mae dogfennau tendro’n gyfle ardderchog i ddangos sut mae eich mudiad yn
defnyddio SGC ar lefelau strategol, gweithredol a rheoli ac mae’r ganolfan wedi creu canllaw y gellir ei lawrlwytho, o’r enw “Yr Allwedd i Fidio Llwyddiannus”, sy’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddangos tystiolaeth eich bod yn defnyddio dull integredig o gymhwyso SGC yn eich mudiad.
Rwyf yn ... rheolwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau
Mae gan reolwyr yn amlwg anghenion dysgu a datblygu penodol. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai cael eu dyrchafu i rôl rheoli a wnaethant, o rôl darparu gwasanaeth ar y rheng flaen.
Ceir safonau DANOS sy’n benodol i reolwyr, fodd bynnag mae’n bosibl bod safonau eraill yn y fframwaith DANOS hefyd yn berthnasol i'ch rôl. I weld y safonau yn eu cyfanrwydd cliciwch yma. I gael gwybodaeth am sut mae defnyddio’r safonau hyn gweler ein 'Pecyn Datblygu'r Gweithlu'
I’ch helpu i fod yn fwy effeithiol yn eich rôl fel rheolwr/wraig, gallech ystyried dilyn cwrs NVQ mewn Arwain a Rheoli. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar gyrsiau o’r fath yn ein Cyfeiriadur Hyfforddi, neu cysylltwch â choleg sy’n lleol i chi. Yn rhinwedd eich rôl fel rheolwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, efallai fod gennych hefyd anghenion datblygu tebyg i weithwyr eraill mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen
yr adran ar gyfer 'gweithiwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau', yn ogystal â’r adran hon ar gyfer rheolwyr.
Rwyf yn ... gomisiynydd/prynwr mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau
Mae gan gomisiynwyr gwasanaethau yn amlwg anghenion dysgu a datblygu penodol. Mae hyn yn rhannol oherwydd efallai fod pobl mewn rolau comisiynu yn newydd i’r maes. Tuedd ddiweddar yw comisiynu, ac nid yw llawer o’r staff wedi cael cyfle i fagu llawer o brofiad.
Ceir safonau DANOS sy'n benodol i gomisiynwyr, fodd bynnag mae’n bosibl bod safonau eraill yn y fframwaith DANOS hefyd yn berthnasol i'ch rôl. I weld y safonau yn eu cyfanrwydd cliciwch yma. I gael gwybodaeth am sut mae defnyddio’r safonau hyn gweler ein 'Pecyn Datblygu'r Gweithlu'
I’ch helpu i ddod yn fwy effeithiol yn eich rôl efallai yr hoffech ystyried dilyn cwrs hyfforddi ym maes comisiynu. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar gyrsiau o’r fath yn ein Cyfeiriadur Hyfforddi.
Yn rhinwedd eich rôl fel comisiynydd neu brynwr mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, efallai fod gennych hefyd anghenion datblygu tebyg i weithwyr eraill mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen yr adrannau ar gyfer 'gweithiwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau'a rheolwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yn ogystal â’r adran hon ar gyfer comisiynwyr a phrynwyr.
Rwyf yn ... weithiwr/wraig mewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau
Mae eich anghenion dysgu a datblygu’n debygol o gael eu pennu gan faint o gyswllt sydd gennych â chamddefnyddwyr sylweddau.
Os ydych chi’n gweithio’n aml/drwy’r amser gyda chamddefnyddwyr sylweddau efallai fod gennych anghenion datblygu eithaf penodol, megis cynyddu eich gwybodaeth ynghylch firysau a gludir yn y gwaed. Ceir safonau DANOS sy'n benodol i ddarparwyr gwasanaeth, fodd bynnag mae’n bosibl bod safonau eraill yn y fframwaith DANOS hefyd yn berthnasol i'ch rôl. I weld y safonau yn eu cyfanrwydd cliciwch yma. I gael gwybodaeth am sut mae defnyddio’r safonau hyn gweler ein 'Pecyn Datblygu'r Gweithlu'
Os nad oes gennych eisoes gymhwyster ffurfiol sy’n berthnasol i faes camddefnyddio sylweddau dylech feddwl am ennill un. Mae cymhwyster ffurfiol yn ffordd o gydnabod eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd yn briodol. Mae cymwysterau o’r fath yn cynnwys NVQ lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Weithio gyda Throseddwyr. Ceir manylion cyrsiau o’r fath yn ein Cyfeiriadur Hyfforddi.
Efallai fod gennych eisoes gymhwyster ffurfiol sy’n berthnasol i gamddefnyddio sylweddau, megis cymhwyster allanol ar sail cymhwysedd (e.e. NVQ). Yn ogystal â’r cymhwyster hwn, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn math newydd o gymhwyster sy’n cynnig cyfleoedd dysgu pellach ac sy’n ffordd o ymgymryd â datblygiad proffesiynol pellach. Gelwir y cymwysterau hyn yn Ddyfarniad/Tystysgrif Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau ac fe’u datblygwyd mewn partneriaeth gan 2 gyngor sgiliau sector – sef Sgiliau Iechyd a Sgiliau er Cyfiawnder. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y cymwysterau hyn.
Rwyf yn ... weithiwr/wraig HEB FOD yn y maes camddefnyddio sylweddau
Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau, gallech yn hawdd ddod i gysylltiad â phobl sy’n camddefnyddio sylweddau. Gallech ddisgrifio eich rôl fel ‘porth’, oherwydd chi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhai camddefnyddwyr sylweddau, ond byddwch yn cyfeirio unigolion o’r fath yn gyflym at driniaeth fwy arbenigol.
Efallai fod nifer o’r safonau yn y gyfres DANOS yn berthnasol i'ch rôl. Mae’n bosibl y ceir cyfresi safonau eraill sydd hefyd yn berthnasol i’ch rôl. Cliciwch yma i weld y cyfresi ychwanegol
Ceir llawer o gyrsiau a gynhelir ledled Cymru a fydd yn darparu ymwybyddiaeth sylfaenol i chi ynghylch materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Gweler ein Cyfeiriadur Hyfforddi i gael gwybodaeth ynghylch lle i gael gafael ar y cyrsiau hyn. |