logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau

Dogfennau


Adroddiad Terfynol y Ganolfan (Cyfnod 1)

Daeth cyfnod cyntaf gwaith y Ganolfan i ben ym mis Ebrill 2008. Dechreuodd y cyfnod hwn ym mis Hydref 2006, pan grëwyd y Ganolfan i ddechrau. Mae Adroddiad Terfynol y cyfnod cyntaf yn amlinellu cyflawniadau’r Ganolfan, gan gynnwys creu ein Pecyn Adnoddau ar gyfer Datblygu’r Gweithlu. Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith bod y dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn atodiadau’r Adroddiad Terfynol (Cyfnod 1) wedi cael eu diweddaru ers ysgrifennu’r Adroddiad. Ewch i’r adran ‘Gwybodaeth ac Offer’ ar y safle hwn i lawrlwytho’r fersiynau diweddaraf o’n Pecyn Adnoddau a'r Canllawiau ar Gyfer Profi Cymhwysedd

Grwp Datblygu’r Gweithlu

Wedi’i ffurfio yn 2005 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Grŵp Datblygu’r Gweithlu yn cynnwys swyddogion arweiniol Camddefnyddio Sylweddau, swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynghorau Sgiliau Sector, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn y sector gwirfoddol, darparwyr hyfforddiant, a’r Ganolfan.

Munudau o'r Grwp Workforce Development 21/03/07

Munudau o'r Grwp Workforce Development 02/05/07

Munudau o'r Grwp Workforce Development 25/07/07

Munudau o'r Grwp Workforce Development 17/10/07

Munudau o'r Grwp Workforce Development 02/12/07

Munudau o'r Grwp Workforce Development 11/03/08

Munudau o'r Grwp Workforce Development 21/04/08

Munudau o'r Grwp Workforce Development 13/09/08

 

Sector Sgiliau
Adborth gan Gynghorau Sgiliau Sector am Ddatblygu’r Gweithlu

 

Datblygu Rheolwyr

Un o brif feysydd gwaith Cangen Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw datblygu sgiliau ar gyfer rheolwyr ym maes camddefnyddio sylweddau. Yn ystod mis Tachwedd 2007, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru waith ymchwil a fu’n casglu gwybodaeth am bob un cymhwyster a oedd ar gael i reolwyr ym maes camddefnyddio sylweddau eu dilyn. Arweiniodd hyn at greu cronfa ddata ac mae modd gweld a chwilio drwy’r gronfa hon drwy ddilyn y ddolen isod.

Cronfa Data
Nodiadau ar y Cronfa

 

SMAT
Crynodeb o'r Adborth a dderbyniwyd o Ymgynghoriadau â Rhanddeiliaid

 

Dadansoddi Anghenion y ddarpariaeth hyfforddi gyfredol
Dadansoddi Anghenion y ddarpariaeth hyfforddi gyfredol yng Nghymru

 

Prosiect y Cynllyn Hyfforddi

Cafodd y grŵp Prosiect Cynlluniau Hyfforddi ei greu i ddatblygu enghreifftiau pendant o ymarfer da sy’n ymwneud â datblygu’r gweithlu yn y maes camddefnyddio sylweddau. Gan gynnwys Swyddogion Datblygu’r Canolfannau a thri chynrychiolydd o wasanaethau, swyddogaeth y grŵp yw cyfrannu at ddatblygu offer sydd wedi’u creu gan y Ganolfan a hwyluso a phrofi a threialu unrhyw offer o’r fath.

Adborth i Brosiect y Cynllun Hyfforddi

 

 
  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo