logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau






Digwyddiadau

Efallai bydd angen Acrobat Reader arnoch i lwytho’r dogfennau isod i lawr i’w hargraffu.           
Cliciwch ar y botwm isod os oes angen Acrobat Reader arnoch, a dilynwch y cyfarwyddiadau llwytho i lawr.

Download Acrobat

Hyfforddiant Cyffuriau ac Alcohol yn Wrecsam

Cliciwch yma am daflen (pdf)

Cliciwch yma am ffurflen (Word)

 

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cyffuriau ac Alcohol

Cwrs amlddisgyblaethol deuddydd ar gyfer pobl sydd eisiau gwybod mwy am faterion yn ymwneud a chamddefnyddio sylweddau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Hyfforddiant Achrededig i Weithwyr Cyffuriau 2007/8
Dulliau Gweithredu sy’n seiliedig ar Dystiolaeth ar gyfer Cwnsela Defnyddwyr Sylweddau (EBA)

Achrediad, DANOS, Cymhwyster, Asesiad, Cymhwysedd – ym maes  camddefnyddio sylweddau sydd wastad yn newid, gall fod yn anodd penderfynu ble orau i fuddsoddi’ch adnoddau ar gyfer datblygu staff. Mae'r rhaglen EBA yn cyfuno cyfleoedd i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau craidd ym maes triniaeth am gyffuriau gyda'r posibilrwydd o ennill dyfarniad gan y Rhwydwaith Coleg Agored sydd wedi'i fapio i glwstwr o unedau DANOS. Mae’r myfyrwyr yn casglu tystiolaeth am eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r sgiliau craidd yn y driniaeth ar gyfer cyffuriau.
Cymhwyster sy’n sefyll ar ei ben ei hun yw'r EBA o'r safon uchaf sydd hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth y gellir ei defnyddio tuag at NVQs a dyfarniadau eraill sy'n seiliedig ar gymhwysedd. Beth am gymryd cip ar yr adborth gan gyn-fyfyrwyr a’u rheolwyr - mae i'w weld ar ein gwefan www.trainingexchange.org.uk  ynghyd â gwybodaeth fanylach am y rhaglen gyfan.
Jo Bush a Jools Hesketh
Y Gyfnewidfa HYFFORDDIANT

 

Hyfforddiant Sgiliau ym maes Alcohol a Phobl Ifanc


Mae Alcohol Concern yn cyflwyno rhaglen hyfforddiant genedlaethol ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn rhan o Brosiect Hyfforddiant Darparu ar gyfer Pobl Ifanc, a noddir gan Comic Relief.
Rydym yn cynnig hyfforddiant â chymhorthdal ledled y DU; naw rhanbarth llywodraethol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Mae opsiynau eraill am bris gostyngol ar gael hefyd.

Nod yr hyfforddiant yw:

  • Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth cyfranogwyr am alcohol
  • Archwilio eu hagweddau at bobl ifanc yn yfed
  • Datblygu eu sgiliau i weithio'n agos gyda phobl ifanc ynghylch eu defnydd o alcohol.

Yn ei dro, gobeithio y bydd hyn yn cefnogi ymarferwyr i weld a yw person ifanc yn camddefnyddio alcohol ac i ymyrryd yn gynnar, naill ai drwy roi cyngor a chymorth cryno neu ei gyfeirio at gymorth arbenigol.
Fel dewis ychwanegol, rydym, ar y cyd â’r Brifysgol Agored, wedi datblygu cymwysterau yn seiliedig ar DANOS (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes Cyffuriau ac Alcohol). Rydym yn annog cyfranogwyr i ddatblygu portffolio at ddiben asesu, a fydd yn dangos y cymwyseddau hyn mewn unedau DANOS dethol gan weithio at y dyfarniadau canlynol:

  • Tystysgrif Broffesiynol ym maes Sgiliau Alcohol a Phobl Ifanc (AA1 & AB5)
  • Uwch Dystysgrif Broffesiynol ym maes Sgiliau Alcohol a Phobl Ifanc (AA1, AB5, AF1 & AH10)

Gweler y daflen/dolen am fwy o wybodaeth. Cliciwch yma am gwybydoaeth am y 'National Youth' (saesneg)

 

CYFLEOEDD HYFFORDDI CAIS

Efallai eich bod yn gwybod bod y gofynion DANOS a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o staff mewn mudiadau sy’n darparu Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau, y mae angen hyfforddiant arnynt i’w galluogi i gyflawni’r safonau.  Rwyf yn falch o ddweud wrthych fod CAIS nawr wedi gallu ymestyn ei rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn darparu swm sylweddol o’r hyfforddiant yr amlygwyd yr oedd ei angen er mwyn helpu eich gweithlu i gyflawni’r safonau DANOS. 

Rydym ar ganol datblygu Pamffled Hyfforddiant a fydd yn rhoi manylion yr hyfforddiant y gellir ei ddarparu, a phryd fydd yr hyfforddiant hwn ar gael yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i mi roi gwybod i chi pa bynciau hyfforddiant a fydd ar gael er mwyn i chi gynnwys darpariaeth yn eich cyllideb hyfforddi, os bydd y pynciau o ddiddordeb i chi.   Cofiwch yn ogystal â darparu’r hyfforddiant a amlinellir isod ein bod hefyd yn gallu darparu rhaglenni wedi’u teilwra i ddiwallu eich anghenion penodol ac y gellir eu darparu’n unol â’ch gofynion. 

Pynciau Hyfforddi

  • Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Sylweddau            
  • Agweddau Cyfreithiol ar Gadw Cofnodion
  • Cyfweld Cymelliannol                      
  • Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl
  • Atal Llithro’n Ôl                                 
  • Gwaith grŵp
  • Hunanladdiad a Hunan-niweidio                            
  • Sgiliau Cwnsela Cyffuriau ac Alcohol
  • Diagnosis Deuol                              
  • Therapi Ymddygiad Gwybyddol
  • Cael Goruchwyliaeth Gadarnhaol  
  • Rheoli Dicter
  • Gweithredu a Defnyddio DANOS  
  • Hyfforddiant i rai sy'n gweithio ar ben eu hunain
  • Alcohol a Phobl Hŷn
  • Alcohol a Phobl Ifanc


Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi neu os hoffech drafod eich gofynion hyfforddiant yn bersonol, mae croeso i chi gysylltu â mi’n uniongyrchol ar (01492 523041. Lynne Owen, CYDLYNYDD HYFFORDDIANT CAIS.

  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo