logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau

DANOS a’r Gweithlu Alcohol a Chyffuriau yng Nghymru


Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol (DANOS), yn nodi’r safonau perfformiad/cymwyseddau y dylai pobl yn y maes Cyffuriau ac Alcohol fod yn gweithio’n unol â hwy.

Maent hefyd yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gwrdd â’r safonau hynny.

 

Adolygiad Diweddar SGCCA

Diweddariad 2007

Cynhaliodd Sgiliau Iechyd adolygiad yn ddiweddar o fframwaith y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol (DANOS) fel rhan o adolygiad o'i holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC).  Prif bwrpas yr adolygiad hwn oedd adlewyrchu’r newidiadau a fu yn y SGCau dros y ddwy flynedd diwethaf.  Mae Sgiliau Iechyd, fel pob Cyngor Sgiliau Sector, yn ymdrechu i sicrhau bod ei holl gynnyrch wedi'i ddiweddaru ac yn berthnasol i'r sector y mae'n ei gefnogi. Felly, mae adolygiadau o SGCau a Chymwysterau yn rhan bwysig o'r swyddogaeth hon.

Yn hanesyddol, roedd y gyfres DANOS yn cynnwys SGCau o nifer o wahanol gyfresi eraill, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Rheolaeth ac Arweinyddiaeth. Rhoddwyd labeli cod DANOS i'r cyfresi hyn (e.e. AA2).  Roedd y gyfres DANOS hefyd yn cynnwys safonau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y gweithlu Camddefnyddio Sylweddau. 

O ganlyniad i’r ymarfer hwn, byddwch yn dal i allu cael gafael ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) gwreiddiol a ffurfiodd y gyfres DANOS yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, fe sylwch ar rai newidiadau, gan gynnwys:-

1) Mae rhai o’r SGCau wedi aros yr un fath o ran eu cynnwys a’u label cod (y llythrennau o flaen y safon, e.e. AA1).
2) Mae label cod rhai o’r SGCau wedi newid am fod y gwreiddiol erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio, e.e. newidiodd AA2 i HSC233 (Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
3) Mae rhai o’r SGCau a fewngludwyd i fframwaith DANOS wedi’u diweddaru gan y sector â’u gwnaeth yn y lle cyntaf. Mae’r cymwyseddau sydd wedi’u diweddaru felly wedi cael eu cynnwys ac wedi cael eu label cod gwreiddiol e.e. newidiodd AD2 i ENTO L10.    
4) Newidiwyd rhai o'r safonau DANOS gwreiddiol yn rhai mwy generig fel eu bod yn cyd-fynd â dulliau Sgiliau Iechyd, ac o ganlyniad rhoddwyd label cod GEN neu CHS iddynt, e.e. newidiodd AC2 i GEN36 a AH5 i CHS12.
5) Yn olaf, rhannwyd rhai o'r SGCau yn nifer o SGCau llai o ganlyniad i newidiadau yn y safon wreiddiol, e.e. newidiodd AH8 i Pharm 07, 08, 09, 10, 11.
Ceir crynodeb o’r newidiadau yn y gyfres DANOS yn y ddogfen sydd ynghlwm. Gellir cael gafael ar y ddogfen drwy glicio yma .

Mae’n bwysig nodi nad oes angen i sefydliadau nac unigolion gynnal adolygiad arbennig o bethau megis cyrsiau hyfforddi, proffiliau swyddi, dogfennau gwerthuso/CDP ayyb yng ngoleuni’r newidiadau diweddar hyn.  Fodd bynnag, argymhellir y dylid adlewyrchu’r newidiadau hyn yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn unrhyw ddogfennau o’r fath pryd bynnag fydd hyn yn gyfleus i chi.

 

Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y Sector Cyffuriau ac Alcohol

Beth yw DANOS?

Beth nad yw DANOS?

Defnyddio DANOS

Manteision DANOS

 

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y Sector Cyffuriau ac Alcohol (SGCCA)


Mae fframwaith y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar Gyffuriau ac Alcohol (SGCCA) wedi cael ei resymoli’n ddiweddar, sy’n golygu bod pob un o’r safonau wedi cael eu hadolygu drwy ymgynghori â grŵp rhesymoli SGCCA.
Dyma ganlyniadau allweddol y broses rhesymoli:

  1. Mae rhai o’r safonau wedi aros union yr un fath h.y. nid yw label y cod na’r disgrifiad wedi cael eu newid.
  2. Mae rhai o ddisgrifiadau’r safonau yn aros yr un fath ag o’r blaen, serch hynny mae label y cod wedi newid h.y. os daeth cod o gyfres arall o safonau galwedigaethol a oedd yn bodoli cyn SGCCA, a’i fod wedi’i gynnwys wedyn yn SGCCA gyda chod SGCCA, mae wedi cael ei newid nawr i adlewyrchu’r gyfres wreiddiol o safonau galwedigaethol. Er enghraifft:
  • Mae’r Safon SGCCA ‘AA2 Ymdeimlo ag unigolion a rhyngweithio â nhw’ nawr wedi newid i ‘HSC233 Ymdeimlo ag unigolion a rhyngweithio â nhw’ gan ei bod yn dod o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mae rhai o’r safonau a oedd wedi’u hymgorffori yn safonau SGCCA pan gawsant eu creu am y tro cyntaf o sectorau eraill, wedi cael eu diweddaru ac felly mae’r fersiwn wedi’i ddiweddaru o’r safon nawr yn cael ei gynnwys yn y safonau galwedigaethol ar gyfer y sector cyffuriau ac alcohol.
  • Mae rhai o safonau gwreiddiol SGCCA wedi cael eu gwneud yn fwy cyffredinol. Mae safonau o’r fath yn dechrau gyda chod GEN, er enghraifft:
    • Mae’r safon SGCCA ‘AC2 Defnyddio goruchwyliaeth’ bellach yn ‘GEN36 Defnyddio goruchwyliaeth’

Cliciwch yma i weld y safonau galwedigaethol wedi’u diweddaru ar gyfer y sector cyffuriau ac alcohol.

 

Beth yw DANOS?

Mae DANOS yn fyrfodd am set o safonau, “Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol”. Maent yn nodi’r safonau perfformiad / cymwyseddau y dylai pobl ym maes Cyffuriau ac Alcohol fod yn gweithio’n unol â hwy a’r cymwyseddau y dylai’r bobl hyn feddu arnynt fel eu bod yn cyflawni’u swyddi’n effeithiol.

Mae DANOS yn disgrifio'r wybodaeth weithio sydd ei hangen arnoch i ddangos eich bod yn effeithiol yn eich rôl / swydd.
Mae tri maes allweddol i DANOS

  • Cyflenwi gwasanaeth
  • Rheoli gwasanaethau
  • Comisiynu gwasanaethau

Ceir safonau gwahanol ar gyfer pob un o’r meysydd hyn. I weld y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn llawn, cliciwch yma

 

Beth nad yw DANOS?

Nid yw DANOS yn endid a saif ar ei ben ei hun

Nid yw DANOS yn gorff dyfarnu nac yn gorff sicrhau ansawdd

Nid yw DANOS yn ddarparwr hyfforddiant

Nid yw DANOS yn enw brand

Nid yw DANOS yn golygu NVQ yn unig 

Datblygwyd DANOS gan y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y sector iechyd – Sgiliau ar gyfer Iechyd. I gael gwybodaeth fanylach am DANOS, ewch i wefan Sgiliau ar gyfer Iechyd - cliciwch yma

Gellir defnyddio DANOS mewn sawl ffordd gan fudiadau, asiantaethau, gwasanaethau neu unigolion.

Defnyddio DANOS

Cynllunio’r gweithlu

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol, yn eich cynorthwyo i gynllunio faint o weithwyr sydd eu hangen a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar y bobl hyn i gyflawni gweithgareddau busnes. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer cynnal amcanion strategol eich mudiad.

Llunio swyddi

Yn gysylltiedig yn agos iawn â chynllunio gweithlu y mae llunio swyddi. Mae llunio swyddi’n dda yn golygu llunio swyddi sy’n ddeniadol i bersonél cymwys, ac sy'n gynaliadwy dros amser, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu. Gellir defnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol, i nodi gweithgareddau pob swydd ac i ffurfio disgrifiad swydd yn seiliedig ar gymhwysedd. Mae’r term “Disgrifiad Swydd” fel y defnyddir ef isod yn cynnwys y disgrifiad swydd seiliedig ar gymhwysedd yn ogystal â manyleb y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol.

Recriwtio a dethol

Mae Manyleb y swydd, yn cynnwys y Disgrifiad Swydd seiliedig ar gymhwysedd a’r fanyleb o wybodaeth a sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd, yn elfen hanfodol sy’n sylfaen i recriwtio, asesu a dethol yn deg ac effeithiol.

Cynefino

Os ydych chi newydd eich penodi i swydd, gall y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol eich cynorthwyo i ddeall eich swyddogaethau a’ch cyfrifoldebau a nodi beth sydd angen ei gynnwys yn eich cynllun cynefino.

Cyfarwyddyd ymarfer da

Ar eu symlaf, gellir defnyddio'r cymwyseddau yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol i ddarparu arweiniad o ran sut i wneud eich gweithgareddau gwaith.

Hyfforddi a datblygu

Gall y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol gefnogi a chyfarwyddo dadansoddi anghenion hyfforddi a datblygu, dyluniad deunydd hyfforddi a dysgu a gwerthuso effeithlonrwydd ymyriadau hyfforddi a datblygu.

Asesu

Gellir defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i asesu perfformiad gweithwyr unigol ac i ba raddau y maent yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol. Gallai’r asesiad fod am nifer o wahanol resymau, megis ar gyfer dethol, nodi anghenion hyfforddi, gwerthuso effeithlonrwydd hyfforddiant, rheoli perfformiad, sicrwydd ansawdd neu ardystio cyhoeddus.

Cydnabyddiaeth

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn darparu fframwaith ar gyfer asesu perfformiad ymarferwyr yn deg a diogel.  Lle bo ymarferwyr yn perfformio’n gyson i’r safonau gofynnol, gallai fod yn briodol cydnabod hyn drwy gadarnhau'r ymarferwyr yn eu swyddi, eu hail-raddio, darparu tystysgrifau cymhwysedd, darparu gwobrau ariannol, neu gyfuniad o'r rhain.
Megis Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn diwydiannau eraill, gellir defnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol fel sail ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol (megis Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol neu gymwysterau academaidd) yn y dyfodol.

Datblygiad personol a phroffesiynol parhaus

Gall ymarferwyr unigol ddefnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol i reoli eu datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.

Datblygu gyrfa

Gall y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol hefyd gynorthwyo ymarferwyr unigol i weithredu i ddatblygu eu gyrfa.

Cynllunio a hyrwyddo dilyniant

Gall mudiadau ddefnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol i ganfod pwy sy’n debygol o symud ymlaen i swydd pan fo rhywun yn gadael neu’n ymddeol, a’u paratoi ar gyfer eu rôl newydd.

Rheoli perfformiad

Gallwch ddefnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol i ffurfio proffiliau rôl. Gellir defnyddio’r proffiliau hyn wedyn i weithio gydag aelodau eich tîm i’w cynorthwyo i berfformio i’r safonau angenrheidiol ar gyfer eu swydd.

Diwylliant sefydliadol

Byd defnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol fel tîm, mudiad neu bartneriaeth yn effeithio’n ddiamau ar ddiwylliant y tîm, y mudiad neu’r bartneriaeth. Bydd y diwylliant a ddatblygir yn un o rymuso, pwyso a mesur ac ymrwymiad unigol ac ar y cyd i ddarparu gwasanaethau o safon y cytunwyd arni. Bydd hefyd yn ddiwylliant a fydd yn ymroi i foderneiddio ac ail-lunio.

Sicrhau ansawdd

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn gosod cyfrifoldeb dros sicrwydd ansawdd yn gadarn yn nwylo ymarferwyr unigol. Gwyddant yn glir pa safonau y disgwylir iddynt weithio’n unol â hwy a gallant wirio eu bod yn cwrdd yn gyson â’r safonau hynny. Y mae gan eu rheolwyr hefyd fframwaith ar gyfer asesu perfformiad aelodau eu tîm a chael sicrwydd eu bod yn gymwys i gyflawni’r gweithgareddau a aseiniwyd iddynt gyda’r lleiaf posibl o oruchwyliaeth.

Datblygu partneriaethau

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn strwythur defnyddiol i gefnogi datblygu partneriaethau gan eu bod yn darparu iaith gyffredin a fframwaith cyffredinol i bob partner ddeall eu cyfrifoldebau eu hunain a rolau partneriaid eraill, wrth weithio tuag at ddiben cyffredin.

Manteision DANOS

Pam defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn y Sector Cyffuriau ac Alcohol?

Y bobl y mae’n ei gyflogi yw ased mwyaf sefydliad. Gweithlu medrus, hyfedr a llawn cymhelliant yw’r gwahaniaeth amlwg rhwng sefydliadau llwyddiannus a sefydliadau aflwyddiannus. Dyma lle gall y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer y sector Cyffuriau ac Alcohol helpu sefydliadau ac unigolion i gyflawni eu nodau busnes a’u nodau personol. Datblygwyd safonau o’r fath oherwydd er bod nifer o SGC a oedd eisoes yn bodoli cyn datblygu SGC ar gyfer y sector Cyffuriau ac Alcohol yn berthnasol h.y. y rheini a ddatblygwyd ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol, sectorau cwnsela ayb, teimlwyd bod bylchau sylweddol hefyd, yn enwedig ar gyfer safonau a oedd yn adlewyrchu cyd-destun penodol y sector ar gyfer y rheini sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol a datblygu polisïau a strategaethau.

Dyma brif fanteision bod yn gymwys mewn SGC ar gyfer y sector Cyffuriau ac Alcohol, o safbwynt unigolion a sefydliadau.

Manteision i Weithwyr

  1. Maent yn helpu unigolion i asesu a oes ganddynt fylchau yn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad a thrwy hynny eu helpu i ganfod anghenion hyfforddi.
  2. Gall tystiolaeth o weithio tuag at y SGC ar gyfer y sector Cyffuriau ac Alcohol wella cyflogadwyedd a gallu unigolion i symud rhwng swyddi gwahanol.
  3. Maent yn darparu mynediad at hyfforddiant perthnasol, yn enwedig pan fydd cyrsiau hyfforddi wedi’u mapio i SGC.
  4. Maent yn cymell unigolion i gymryd rhan mewn dysgu a datblygu perthnasol sy’n gwella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u datblygiad a thrwy hynny eu galluogi i symud ymlaen yn broffesiynol.
  5. Mae modd cymhwyso mewn safon alwedigaethol ‘yn y gwaith’ heb orfod dilyn cymhwyster ffurfiol o reidrwydd, h.y. drwy arsylwi, ymarfer a myfyrio.

Manteision i Gyflogwyr

  1. Maent yn rhoi gweithlu mwy cymwys ac felly mwy hyblyg i sefydliadau.
  2. Drwy ymgorffori safonau galwedigaethol mewn prosesau recriwtio, gwerthuso a dysgu a datblygu, gall sefydliadau sicrhau eu bod yn denu ac yn cadw ymgeiswyr o’r safon uchaf.
  3. Maent yn gost effeithiol a gellir eu cynnal tra bo’r unigolyn yn ei waith heb orfod mynychu sesiwn hyfforddi na chwblhau cymhwyster ffurfiol.
  4. Maent yn rhoi ffordd i sefydliadau fesur ac asesu cymhwysedd unigolion yn eu swyddogaeth.
  5. Maent yn gwneud sefydliadau’n fwy cystadleuol a phroffidiol gan fod eu gweithlu’n fwy ymroddedig, medrus, hyblyg a llawn cymhelliant.

I weld y SGC sy’n berthnasol i’r sector Cyffuriau ac Alcohol cliciwch yma

 

 

 
  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo