Cysylltiadau
www.skillsforhealth.org.uk - Mae Sgiliau ar gyfer Iechyd yn gweithio gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod gan y rhai sy’n gweithio yn y sector y sgiliau cywir i gefnogi datblygu a chyflwyno gwasanaethau gofal iechyd.
www.skillsforjustice.com – Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder yw’r Cyngor Sgiliau Sector ymroddedig a’r Corff Gosod Safonau ar gyfer y sector Cyfiawnder. Gan weithio gyda sefydliadau’r sector Cyfiawnder ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, mae Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder yn nodi’r blaenoriaethau sgiliau a’r camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu’r gweithlu. Substance Misuse Project http://www.skillsforjustice.com/template01.asp?pageid=129
www.ccwales.org.uk – Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru ym mis Hydref 2001 i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac arfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a safonau uchel yn eu hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau y dylai plant ac oedolion sy’n cael gwasanaethau gofal cymdeithasol allu dibynnu ar weithlu sydd wedi’i hyfforddi’n briodol, â’r cymwysterau priodol ac sy’n cael ei reoleiddio’n effeithiol.
www.nwsmf.org.uk - Mae Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru (NWSMF) yn cynnwys uwch aelodau gwasanaethau sy’n ymwneud â chamddefnyddwyr sylweddau ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys y sector gwirfoddol yn ogystal ag asiantaethau statudol.
www.fdap.org.uk – Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol (FDAP) yw’r corff proffesiynol i ymarferwyr ym maes camddefnyddio sylweddau ac mae’n gweithio i helpu i wella safonau arfer ar draws y sector. Mae’n rhan o naadac, elusen gofrestredig.
www.drinkanddrugs.net – Mae drinkanddrugs.net yn borth gwe ar gyfer y maes cyffuriau ac alcohol a gyhoeddir gan Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol.
www.cais.co.uk – Bydd CAIS yn lleihau’r niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol a chyffuriau drwy ddarparu ystod o wasanaethau ac ymyriadau effeithiol a thrwy weithio gydag eraill i atal niwed mewn cysylltiad ag alcohol a chyffuriau fel y gall unigolion a chymunedau wneud y mwyaf o’u potensial cymdeithasol, iechyd ac economaidd.
www.work2health.org.uk – gwasanaeth ymgynghori rhyngwladol sy’n hybu iechyd a lles i gymdeithasau, sefydliadau ac unigolion.
www.wgcada.org – Nod canolfannau WGCADA yw helpu pobl â phroblemau alcohol a chyffuriau i arwain bywyd mwy boddhaus. Mae’r sefydliad hefyd yn helpu’r rheiny y mae rhywun â phroblemau camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt, fel aelodau teulu a ffrindiau.
www.substancemisuse.net - www.dailydose.net - www.wiredinitiative.com
Datblygwyd WIRED yn ffordd o roi grym i bobl fynd i’r afael â phroblemau a achosir gan gamddefnyddio sylweddau. Mae’r wefan hon yn disgrifio ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys datblygu’r porth newyddion Daily Dose, cysylltiad â’r cylchgrawn Drink and Drugs News, rhaglen o hanesion personol a phroffiliau prosiect, ymchwil yn y gymuned, prosiectau ymwneud â ffilm a cherddoriaeth, a mwy.
www.prism-online.info - Mae Prism yn asiantaeth arbenigol gymunedol yn cynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i bobl â phroblemau mewn perthynas â’u defnydd hwy neu ddefnydd rywun arall o alcohol.
www.alcoholaddictionmidwales.co.uk – Bwriad Alcohol Addiction ym Mhowys yw cynnig cymorth i’r rheiny â phroblem ag alcohol, hefyd i ffrindiau, perthnasau neu gydweithwyr y rheiny sy’n gaeth i alcohol a chynnig hyfforddiant am ymwybyddiaeth am alcohol i weithwyr proffesiynol, cyflogwyr, ysgolion, clybiau, cwnsleriaid ac unrhyw un arall â diddordeb.
www.alcoholconcern.org.uk – Alcohol Concern yw’r asiantaeth genedlaethol am gamddefnyddio alcohol. Maent yn gweithio i leihau achosion a chostau niwed cysylltiedig ag alcohol a chynyddu amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i bobl â phroblemau cysylltiedig ag alcohol.
www.downyourdrink.org.uk – Down Your Drink yw’r rhaglen ar-lein chwyldroadol i bobl sy’n poeni am eu hyfed.
www.recovery.org.uk – Dyma wefan am wybodaeth a chyngor am gamddefnyddio alcohol, camddefnyddio cyffuriau ac anhwylderau bwyta.
www.ias.org.uk – Mae astudiaethau’r Sefydliad Alcohol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am alcohol a niwed cysylltiedig ag alcohol.
www.drugscope.co.uk DrugScope yw canolfan arbenigedd annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU am gyffuriau. Ei nod yw llywio datblygiad polisïau a lleihau risg mewn cysylltiad â chyffuriau.
www.welshcouncil.org.uk – Wedi ymrwymo i atal a lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
www.I-L-M.com Mae’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) yn gweithio’n benodol i hyrwyddo gallu rheolwyr ac arweinwyr ar draws y byd drwy ddarparu cymwysterau arbenigol, gwasanaethau cynhwysfawr i aelodau ac adnoddau dysgu. Trwy wella gwybodaeth, hyder a gallu unigolion yn y maes rheoli, gall ILM gyfrannu at wella perfformiad busnesau.