Ymwrthodiad Nid yw’r Ganolfan yn ardystio ansawdd unrhyw gyrsiau hyfforddiant neu gymwysterau a restrir ac mae’n gwrthod unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gwrs hyfforddiant neu gymhwyster yn bodloni eich union ofynion.
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gyrsiau camddefnyddio sylweddau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os gwyddoch am unrhyw gyrsiau, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i ddiweddaru’r wefan.
Dylech ddefnyddio termau chwilio Saesneg.
Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymwysterau Achrededig (NDAQ) yn cynnwys manylion y cymwysterau sydd wedi’u hachredu gan sefydliadau rheoleiddio’r llywodraeth yn Lloegr (QCA), Cymru (DCELLS) a Gogledd Iwerddon (CCEA).
Gall defnyddwyr chwilio am fanylion cymwysterau achrededig cyfredol yn www.accreditedqualifications.org.uk/index.aspx