logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau

Cwestiynau Cyffredin

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y cysylltiadau:

1. Sut y gallaf wneud cynnydd yn fy ngyrfa?

2.  Pa gymwysterau ddylwn i eu dilyn?

3.  Ble y gallaf ddod o hyd i gwrs am fater penodol?

4. Sut y gallaf fynd ati i ymuno â’r maes cyffuriau ac alcohol?

5.  Sut galla’ i ennill cymhwyster DANOS?

6.  Beth yw FDAP? A ddylwn gael fy achredu gan FDAP?

7.  Sut ydw i’n gwneud NVQ?

8.  Sut y gallaf fod yn asesydd NVQ?

9.  Rwy’n ddarparwr hyfforddiant. Sut galla’ i fapio fy nghwrs hyfforddiant ar DANOS?

10.Rwy’n ddarparwr hyfforddiant ac rwyf wedi cysoni fy nghyrsiau â DANOS.Sut galla’ i gael fy nghyrsiau wedi’u hachredu?

11. Beth yw Dysgu Blaenorol (ADB)?

 

 

1. Sut y gallaf wneud cynnydd yn fy ngyrfa?

Gallwch ddilyn sawl llwybr i wneud cynnydd yn eich gyrfa.

CGC (NVQ)

Mae NVQs yn gymwysterau galwedigaethol. Hynny yw, cymwysterau y byddwch yn ymgymryd â nhw yn y gweithle. Mae NVQ yn cynnwys unedau craidd yn ogystal ag unedau dewisol ychwanegol. Cewch ddewis unedau sy’n berthnasol i’ch rôl. Mae unedau DANOS yn unedau arbenigol sy’n gysylltiedig â’r maes Cyffuriau ac Alcohol. Mae’r unedau hyn ar gael bellach mewn amrywiaeth o gymwysterau NVQ.

Mae NVQ Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn un enghraifft o NVQ sy’n ymwneud â’r maes camddefnyddio sylweddau sy’n cynnwys unedau dewisol o DANOS. Mae’r NVQ Lefel 3 Gweithio gydag Ymddygiad Troseddol wedi ei ddatblygu ar gyfer staff mewn gwaith prawf/gwaith cymdeithasol ac asiantaethau sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda throseddwyr yn y gymuned. Mae’r NVQ hwn yn cynnwys 5 uned orfodol a 5 uned ddewisol, gyda rhai ohonynt yn cynnwys DANOS.

Ar ôl cwblhau NVQ gallwch ‘ategu’ eich cymhwyster drwy gymryd unedau arbenigol a fyddai’n berthnasol i’r swydd rydych chi’n anelu amdani. Bydd hyn yn arbed i chi wastraffu amser ar gymwysterau na fyddech, o bosib, yn eu defnyddio a chanolbwyntio’n fwy ar yr unedau a fydd yn eich helpu i ddod ymlaen yn eich gyrfa.

Dyfarniad a Thystysgrif mewn Gweithio ym maes Camddefnyddio Sylweddau

Mae Sgiliau ar gyfer Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder, mewn partneriaeth ag Edexel a City & Guilds, wedi creu ystod o gymwysterau newydd ar gyfer y gweithlu camddefnyddio sylweddau. Cynlluniwyd y cymwysterau hyn ar gyfer gweithwyr sydd eisoes wedi ennill NVQ.

Ffurfiwyd y rhain yn dilyn ymgynghori helaeth ag aseswyr a gweithwyr proffesiynol ym maes camddefnyddio sylweddau ac fe’u gelwir yn ‘Ddyfarniad mewn Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau’, a’r ‘Dystysgrif mewn Gweithio gyda Chamddefnyddio Sylweddau’. Gellir cymryd y cymwysterau ar Lefel 3 neu ar Lefel 4.

Mae’r Dyfarniadau a’r Tystysgrifau’n cael eu treialu drwy’r DU gan gynnwys Cymru. Mae Sgiliau ar gyfer Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder yn chwilio am unigolion a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan yn y peilot drwy naill ai ymgymryd â Thystysgrif neu Ddyfarniad lefel 3 neu lefel 4. Maent hefyd yn awyddus iawn i glywed gan ganolfannau o bob rhanbarth yng Nghymru a fyddai'n fodlon rhedeg a darparu'r cymwysterau newydd. Os ydych chi’n credu yr hoffech chi neu eich sefydliad gymryd rhan ac y carech chi wybod rhagor, cysylltwch â Suzanne Fisher yn Sgiliau ar gyfer Iechyd: Suzanne.fisher@skillsforhealth.org.uk

Ar gyfer cynnydd eich gyrfa, mae’n bwysig eich bod yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus. Gallai hyn olygu mynychu cyrsiau hyfforddiant er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cadw’n gyfredol neu trwy sefydlu cynllun mentora yn eich sefydliad. Mae’n bwysig bod eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r maes cyffuriau ac alcohol yn gyfoes ac yn unol â’ch dyheadau gyrfa. Bydd DANOS yn rhoi’r fframwaith i chi wneud hyn.

2. Pa gymwysterau ddylwn i eu dilyn?

Bydd y cymhwyster a ddewiswch yn dibynnu ar eich maes gwaith, eich swyddogaeth benodol, a’ch anghenion hyfforddi a datblygu. Mae sawl cymhwyster yn gysylltiedig â maes cyffuriau ac alcohol. Dyma ychydig ohonynt gydag amlinelliad byr o’u cynnwys:

Tystysgrif Lefel 1 NCFE mewn Ymwybyddiaeth Cyffuriau
Mae hwn yn gwrs sylfaenol ar Ymwybyddiaeth ac Agweddau ynghylch Cyffuriau ac Alcohol. Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer yr ystod ehangaf bosibl o bobl, yn amrywio o fyfyrwyr ysgol a choleg i’r rhai a hoffai ddeall mwy am faterion yn ymwneud â sylweddau.

Tystysgrif Lefel 2 NCFE mewn Astudiaethau Ymwybyddiaeth Cyffuriau a’u Cymhwyso
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer ystod eang o bobl, yn amrywio o’r rhai y mae angen gwybodaeth gefndir gyffredinol arnynt, neu fel llwybr dilyniant i’r rheini sydd eisiau gweithio mewn rôl fwy arbenigol ym maes camddefnyddio sylweddau.

Tystysgrif Gyntaf mewn Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau
Mae’r Dystysgrif Gyntaf mewn Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau wedi’i hanelu at y cannoedd ar filoedd o weithwyr Haen 1 hynny y mae angen iddynt adnabod arwyddion o gamddefnyddio sylweddau a gwybod beth i’w wneud – naill ai cyfeirio unigolion at arbenigwyr neu ymdopi â sefyllfaoedd argyfyngus hyd nes bod cymorth proffesiynol yn cyrraedd.

Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder - Uwch Brentisiaeth mewn Cyfiawnder Cymunedol
Mae mwyafrif y prentisiaid cyfiawnder cymunedol yn tueddu i fod dros 20 oed. Mae rhaglen y brentisiaeth yn cymryd dwy flynedd i’w chwblhau ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyflogir y prentis mewn lleoliad cyfiawnder cymunedol ac fe fydd yn ennill nifer o gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae enghreifftiau o gyflogwyr yn cynnwys Timau Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf, gwasanaethau cyffuriau a gomisiynir a gwasanaethau cyffuriau carchardai. Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.skillsforjustice.com/websitefiles/App%20Leaflet(1).pdf

NVQ Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3
Mae’r NVQ Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 wedi’i anelu at y gweithwyr hynny ym maes cyffuriau ac alcohol sydd heb gymwysterau proffesiynol. Bydd yr NVQ yn gofyn bod ymgeiswyr yn dangos eu gallu mewn pedair uned graidd (yn gyffredin â phob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol) a phedair uned ddewisol o gyfres DANOS.

Tystysgrif Broffesiynol Cyffuriau ac Alcohol FDAP
Mae Tystysgrif Broffesiynol Cyffuriau ac Alcohol Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol (FDAP) yn adeiladu ar DANOS ac yn ategu NVQs drwy ddarparu tystysgrif broffesiynol sy’n seiliedig ar gymhwysedd i ymarferwyr cyffuriau ac alcohol. O dan y cynllun, gellir ardystio ymarferwyr fel Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol Cofrestredig neu Achrededig, a bydd angen iddynt brofi eu cymhwysedd mewn cyfres ‘graidd’ o 9 uned DANOS yn ogystal ag un o gyfres o 14 Uned ‘arbenigol’.

BSc (Anrh) Camddefnyddio Sylweddau
Mae’r dyfarniad hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, rhinweddau, sgiliau a nodweddion eraill sy’n berthnasol i weithio gyda chamddefnyddio sylweddau.

Dulliau Gweithredu sy’n seiliedig ar Dystiolaeth ar gyfer Cwnsela Defnyddwyr Sylweddau
Gan ddefnyddio’r ymchwil ddiweddaraf am ganlyniadau triniaeth, mae EBA yn rhaglen hyfforddiant sydd â’r nod o ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n galluogi myfyrwyr i ddangos cymhwysedd wrth gefnogi defnyddwyr cyffuriau drwy newid. Caiff myfyrwyr eu hasesu, a gallant gyflwyno tystiolaeth i achredu eu dysgu gyda Rhwydwaith Cenedlaethol y Coleg Agored (RhCA). Mae’r cwrs yn annog cyfranogwyr i roi theori ar waith drwy gyfuno mewnbwn gyda gweithgareddau i ddatblygu ac ymarfer sgiliau. I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn, ewch i www.trainingexchange.org.uk

Er mwyn penderfynu pa fath o gymhwyster sy’n addas ar eich cyfer chi, dylech drafod y mater gyda’ch rheolwr/wraig llinell, er mwyn asesu ymhle y mae angen hyfforddiant ychwanegol arnoch.


3.   Ble y gallaf ddod o hyd i gwrs am fater penodol?

Mae’n bosib eich bod wedi sylweddoli bod angen hyfforddi penodol arnoch a’ch bod eisiau dod o hyd i gwrs a fydd yn bodloni’r angen hwnnw. Mae gan DATOracle Gyfeirlyfr Hyfforddiant cynhwysfawr y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyrsiau yn ôl eu henw, cod uned DANOS, darparwr hyfforddiant, lleoliad neu’r math o gwrs;

 
4.   Sut y gallaf fynd ati i ymuno â’r maes cyffuriau ac alcohol?

Gwirfoddoli
Bydd eich Canolfan Wirfoddoli leol yn gwybod am gyfleoedd sydd ar gael yn yr ardal leol. Gallant drafod â chi beth rydych chi eisiau ei wneud, a’ch cyfeirio ar y bobl briodol:  www.volunteering.org.uk

Ennill cymhwyster Cyffuriau ac Alcohol
Cymharwch eich nodau gyrfa â’ch swydd gyfredol ac ystyriwch y tebygrwydd a’r gwahaniaethau. Nodwch pa wybodaeth, sgiliau a phrofiad newydd y mae eu hangen arnoch ar gyfer y swydd rydych yn ei chwennych. Cynlluniwch sut i gael y wybodaeth a’r sgiliau newydd a’r profiad perthnasol y bydd eu hangen trwy ddilyn cymhwyster sy’n berthnasol i gamddefnyddio sylweddau.

Prentisiaethau
Mae prentisiaethau bellach yn opsiwn i bobl ifanc sydd eisiau cyfrannu yn y maes cyffuriau ac alcohol, er enghraifft Prentisiaeth Uwch Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder mewn Cyfiawnder Cymunedol sydd ar gael i ymgeiswyr 18-24 oed yng Nghymru a Lloegr. (Am fwy o wybodaeth gweler Cwestiwn Cyffredin 2 - Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder - Prentisiaeth Uwch mewn Cyfiawnder Cymunedol)


5.   Sut galla’ i ennill cymhwyster DANOS?

Gweler ein tudalennau ‘Camau ar Eich Datblygiad ’ am wybodaeth fanwl am sut i sicrhau eich bod yn gymwys yn yr unedau DANOS sy’n berthnasol i’ch rôl.

Nid oes angen mynychu cyrsiau bob amser i fod yn gymwys gyda DANOS; eich gallu i berfformio’n gyson i’r safonau fydd yn cadarnhau a ydych chi’n gymwys neu beidio. Nid yw’r amser y bu rhywun mewn swydd yn sicrhau ei allu o reidrwydd. Fodd bynnag, dylai rhywun sydd wedi bod yn perfformio’r swyddogaeth yn gymwys ers 10 mlynedd ei chael yn hawdd dangos ei allu.


6.   Beth yw FDAP? A ddylwn gael fy achredu gan FDAP?

Y Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol (FDAP) yw’r corff proffesiynol i ymarferwyr ym maes camddefnyddio sylweddau a’i nod yw helpu i wella safonau gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar draws y sector. Mae’n rhan o’r Gymdeithas ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Caethiwed (NAADAC), ac yn elusen gofrestredig (1075222).

Bwriad Tystysgrif Gweithwyr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol FDAP yw bod yn gyfrwng  i ymarferwyr allu cael eu cymhwysedd a’u proffesiynoldeb wedi ei gydnabod drwy’r maes cyfan. Mae achrediad fel Gweithiwr Proffesiynol Cyffuriau ac Alcohol yn rhoi tystiolaeth o gymhwysedd a ddilyswyd yn allanol.

7.   Sut ydw i’n gwneud NVQ?

Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn gymhwyster seiliedig ar waith lle bydd ymgeiswyr yn casglu tystiolaeth yn ôl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol  (NOS) y S/NVQ, i brofi eu gallu. System asesu yw NVQ, nid cwrs hyfforddiant. Dyma ambell beth i chi ei ystyried ynghylch y math hwn o gymhwyster:

    • Mae asesu NVQ yng ngofal ‘Canolfannau Asesu NVQ’ sy’n penodi aseswyr.
    • Bydd asesydd yn ymweld â chi yn eich gweithle i gynnal ystod o asesiadau bob pedair i chwe wythnos. Fe allai eich asesydd ddymuno siarad â’ch cydweithwyr a/neu reolwr(wraig) llinell hefyd.
    • Gall ymweliad gan eich asesydd amrywio gan ddibynnu beth y mae eich asesydd wedi’i gynllunio gyda chi.
    • Er y byddwch yn casglu rhan fwyaf eich tystiolaeth yn y gweithle (o ganlyniad i’ch gwaith bob dydd), fe allech gael gwaith cartref, oherwydd bydd angen trefnu a chroesgyfeirio eich tystiolaeth a llunio eich portffolio tystiolaeth. Bydd rhaid i chi wneud hyn gartref os nad oes digon o amser gennych yn eich oriau gwaith.

Mae cyrff dyfarnu sy’n cynnig NVQs yn cynnwys:

 8.   Sut y gallaf fod yn asesydd NVQ?

Caiff cymwysterau NVQ eu hasesu mewn perthynas â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Penodir aseswyr gan ganolfannau asesu. Mae canolfan asesu yn gysylltiedig â chorff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau NVQ. Bydd gofyn i chi ennill cymhwyster o’r enw ‘dyfarniad asesydd A1’ sy’n golygu y gallwch asesu ymgeiswyr gan ddefnyddio ystod o ddulliau, neu ddyfarniad asesydd A2 sy’n golygu y gallwch asesu perfformiad ymgeiswyr drwy arsylwi. Mae gofyn hefyd i chi fod yn alwedigaethol gymwys yn y maes yr hoffech ei asesu. Golyga hyn y byddwch wedi cyflawni NVQ Lefel 1 er mwyn asesu ymgeiswyr sy’n gweithio tuag at NVQ Lefel 1 ac ati.

             

Bydd aseswyr NVQ yn gyfrifol am:

  • Gyfarfod â’r ymgeisydd yn rheolaidd yn ei fan gwaith
  • Cynghori’r ymgeisydd am y mathau a’r ystod o dystiolaeth a fyddai’n dderbyniol
  • Cynghori’r ymgeisydd am gronni ei bortffolio tystiolaeth
  • Arsylwi’r ymgeiswyr
  • Casglu’r "dystiolaeth tyst" os yw hyn yn cael ei defnyddio
  • {0><}98{>Asesu’r dystiolaeth yn y portffolio i weld a yw’n berthnasol, yn ddilys ac yn ddigonol0}
  • Llofnodi’r NVQ dim ond pan fydd yr ymgeisydd wedi bodloni ei HOLL ofynion
  • Llenwi a dychwelyd y ffurflen adrodd fisol briodol
  • Mynychu o leiaf dau ddigwyddiad DPP sy’n canolbwyntio ar wirio ac asesu NVQ
  • Cadw’n gyfoes â’u gallu galwedigaethol hwy eu hunain

  9.  Rwy’n ddarparwr hyfforddiant. Sut galla’ i fapio fy nghwrs hyfforddiant ar DANOS?

Mae nifer gynyddol o ddarparwyr hyfforddiant yn mapio eu cyrsiau hyfforddi camddefnyddio sylweddau ar DANOS wrth iddynt sylweddoli’r manteision posib o wneud hynny.Mae mwy a mwy o wasanaethau camddefnyddio sylweddau’n defnyddio’r safonau er mwyn nodi anghenion hyfforddiant eu gweithlu a chwilio am hyfforddiant sy’n dilyn y safonau.

Er mwyn mapio’ch hyfforddiant ar DANOS bydd yn bwysig cael y safonau yn eu cyfanrwydd wrth law gan fod rhai o deitlau’r safonau yn gamarweiniol.Mae’r safonau i’w gweld yma.

Croesgyfeiriwch wahanol elfennau eich cwrs hyfforddi gyda dadansoddiad llawn o’r safonau er mwyn gweld a oes unrhyw berthynas rhyngddynt.Os yw’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw un o’r dadansoddiadau llawn o’r safonau, yna mae modd ychwanegu’r safonau hynny at eich hyfforddiant er mwyn dangos ei fod yn dilyn y safonau hynny.

Mae modd gweld enghraifft o arfer da o’r broses hon ar dudalennau enghreifftiau o arfer da DATOracles.Mae’r enghraifft o arfer da hefyd yn cynnwys gwybodaeth am brofiad y sefydliad o’r ymarfer.

 

10.Rwy’n ddarparwr hyfforddiant ac rwyf wedi cysoni fy nghyrsiau â DANOS.Sut galla’ i gael fy nghyrsiau wedi’u hachredu?

Cysylltwch â chorff dyfarnu, ac fe wnânt hwy eich helpu ar hyd y llwybr hwn.
Mae Cyrff Dyfarnu’n cynnwys:

 

11. Beth yw Dysgu Blaenorol (ADB)?

Mae llawer o ymarferwyr yn pryderu na fydd y profiad a gronasant dros flynyddoedd o weithio ym maes camddefnyddio sylweddau yn cael ei ystyried pan fydd cyflogwyr neu gomisiynwyr yn gofyn am dystiolaeth o gymhwysedd DANOS.  Mae gan rai cymwysterau system sy’n cydnabod y math hwn o ddysgu, ac fe'i gelwir yn Ddysgu Blaenorol Cymeradwy (DBC).

Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid profi dysgu blaenorol trwy gymwysterau ffurfiol. Does dim rhaid i chi gael NVQ i brofi eich bod yn gallu gwneud eich gwaith. Gall cofnod o addysg a hyfforddiant yr ydych wedi ymgymryd â hwy dros gyfnod o amser fod yn brawf o ddysgu blaenorol. Gall y dystiolaeth hon fod ar ffurf y cofnod datblygu personol y mae eich rheolwr/wraig yn ei ddefnyddio gyda chi mewn sesiynau gwerthuso blynyddol, neu'n rhywbeth yr ydych chi eich hun yn ei ddatblygu'n anffurfiol.

  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo