Croeso
Croeso i wefan yr Oracl Hyfforddiant Cyffuriau ac Alcohol. Mae’r prosiect Canolfan Ragoriaeth yn gynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a’i nod yw cynyddu’r defnydd o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol (DANOS) yng Nghymru. Cafodd yr Oracl ei sefydlu gan y Ganolfan i helpu pobl sy’n gweithio yn y sector camddefnyddio sylweddau drwy ddarparu gwybodaeth ynghylch cyrsiau a chyfleoedd hyfforddi eraill sydd ar gael i'w helpu i gwrdd â'u hanghenion.
Sut y gallwn helpu?
Nod y safle hwn yw cynnig cymorth i unrhyw un sydd am ddangos eu bod yn gymwys yn y safonau DANOS. Mae'n bwysig nodi nad yw dangos cymhwysedd mewn safon o anghenraid yn golygu bod yn rhaid i bobl gael hyfforddiant ychwanegol nac ennill cymhwyster. Gellir dangos cymhwysedd drwy brosesau gwerthuso cyfredol neu drwy brosesau eraill, megis asesiad gan berson sy'n annibynnol gymwys.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau defnyddio’r safle hwn, ac y bydd yn ddefnyddiol ichi. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano neu os bydd angen unrhyw gyngor arnoch, mae croeso ichi gysylltu â ni.
|