logo
www.DATOracle.co.uk
Chwiliwch y safle hwn
Cysylltwch â Ni
Cartref * Newyddion * Digwyddiadau * Cyrsiau Hyfforddiant * DANOS * Arfer Da * Cwestiynau Cyffredin * Cysylltiadau * Gwybodaeth a Chyfryngau * Dogfennau

Arfer Da Gan Asiantaethau Yng Nghymru/ Y DU

Ledled Cymru mae sawl darparwr gwasanaeth, asiantaeth, Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau (SMAT) a Rhaglen Camu i Mewn ar Gyffuriau (DIP) sydd wedi mabwysiadu rhai arferion da iawn wrth helpu gweithwyr camddefnyddio sylweddau i ddatblygu. Hoffem rannu’r arferion da hyn gyda chi.    
I weld enghraifft o’r arferion da hyn cliciwch ar y cysylltiadau isod. Os ydych chi’n gwybod am enghraifft arall o arfer da y gallai eraill ddysgu ohoni, hoffem glywed gennych – cysylltwch â ni.

 

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y cysylltiadau:


NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mapio Cyrsiau Hyfforddi CAIS i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol

Disgrifiad swydd wedi'i ddynodi i DANOS

Strategaeth Hyfforddiant Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Gwent 2007

Cyngor Gorllewin Morgannwg ar Gamddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol (WGCADA) a Defnyddio DANOS

 

 

Mapio Cyrsiau Hyfforddi CAIS i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol (SGCCA)

Fel mudiad, yr oedd CAIS eisiau croesgyfeirio’i holl gyrsiau hyfforddi â safonau’r SGCCA er mwyn bod yn barod ar gyfer y dyfodol, pan fyddai angen i’w staff allu dangos eu cymhwysedd o’i gymharu â’r safonau hyn.

Y Broses

 

Cam Un – Cwrdd â’r sawl sy’n gyfrifol am ddatblygu a darparu’r hyfforddiant. Gwnewch yn siŵr bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol gennych wrth law neu ar sgrin gyfrifiadurol o’ch blaen

arrow

 

Cam Dau – Cymharwch elfennau pob uned SGCCA gyda chynnwys yr hyfforddiant, er enghraifft:

Mae dwy agwedd ar hyfforddiant ‘Ymwybyddiaeth Cyffuriau ac Alcohol’ undydd CAIS yn edrych ar arwyddion a symptomau sylweddau penodol gan gynnwys y tri chategori symbylyddion, tawelyddion a halwsinogenau.  Mae’r hyfforddiant hefyd yn edrych ar y gwasanaethau arbenigol eraill sydd ar gael a beth sydd ynghlwm wrth y broses cyfeirio, gan gynnwys y gwasanaethau pedwar haen. Felly, mae’r elfen hon o’r cwrs hyfforddi’n alinio ag Uned AA1 SGCCA ‘Adnabod Arwyddion o Gamddefnyddio Sylweddau a Chyfeirio Unigolion at Arbenigwyr’.

arrow

 

Cam Tri – Ailadroddwch y broses uchod ar gyfer holl gynnwys y cwrs, gan sicrhau y caiff holl unedau perthnasol SGCCA eu nodi. 
 

arrow

 

Cam Pedwar – Cofnodwch yr holl unedau SGCCA y mae’r cwrs yn alinio â nhw er mwyn i’r rheini sydd ar y cwrs wybod pa unedau SGCCA y maent yn derbyn hyfforddiant arnynt.

 
arrow

 

Cam Pump – Adolygu’n rheolaidd, naill ai’n flynyddol neu pryd bynnag y bydd y cwrs yn newid.

 

Profiad o’r broses

Roedd y broses yn golygu llawer o waith ditectif o ran dehongli’r unedau SGCCA, gan gynnwys dadansoddi pob safon yn llawn. Nid oedd bob tro’n amlwg pa uned SGCCA yr oedd pob agwedd ar y cwrs yn alinio â hi, ac roedd angen mynd y tu hwnt i grynodeb pob uned i ddarllen y dadansoddiad llawn o’r safon cyn pennu a oedd y cwrs yn alinio â’r uned SGCCA honno ai peidio.

Roedd y sialensiau a wynebwyd yn ystod y broses yn cynnwys sicrhau bod yr holl elfennau ym mhob uned SGCCA hefyd yn cael digon o sylw gan gynnwys y cwrs, ac nad oedd cynnwys y cwrs yn alinio â theitl neu grynodeb uned SGCCA yn unig. Roedd yn bwysig darllen y dadansoddiad llawn o’r uned cyn asesu a oedd cynnwys y cwrs yn trafod yr uned SGCCA honno ai peidio. 

Mantais yr ymarfer hwn i CAIS yw, fel mudiad, ein bod nawr mewn sefyllfa i gynnig cyfle i staff a chwsmeriaid allanol gael gafael ar hyfforddiant sy’n cyd-fynd ag anghenion y sector. Pan fydd gweithwyr yn mynychu hyfforddiant sydd wedi’i alinio a’i fapio i SGCCA mae’n hawdd iddynt allu dangos eu cymwyseddau’n unol â gofynion y diwydiant, h.y. SGCCA. Mae hyn hefyd yn eu helpu i ganfod hyfforddiant sy’n diwallu anghenion datblygiad proffesiynol sydd yn aml yn cael eu mynegi ar ffurf unedau SGCCA hefyd. 

 

 

Disgrifiad swydd wedi'i ddynodi i DANOS

Bydd y cyswllt isod yn mynd â chi at ddisgrifiad swydd ar gyfer gweithiwr prosiect Cyffuriau a hysbysebwyd yn ddiweddar. Mae’r Disgrifiad Swydd wedi’i ddynodi i DANOS, efallai bydd yr enghraifft weithiol hon o gymorth ichi          
http://cranstoun.org/docs/recruit/proj_worker_croydon.htm

Strategaeth Hyfforddiant Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Gwent 2007

Cefndir   

Wrth roi’r Rhaglen Camu i Mewn ar Gyffuriau ar waith yng Ngwent, cynhaliwyd cyfres o weithdai yn y Timau Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau i drafod sawl mater gan gynnwys hyfforddiant. Bu ymarferwyr yn amlygu nad yw anghenion hyfforddiant y sector Camddefnyddio Sylweddau yng Ngwent yn cael sylw mewn ffordd gyson. Felly, comisiynodd Bwrdd Rheoli Rhanbarthol y Rhaglen Camu i Mewn ar Gyffuriau ddatblygiad Strategaeth Hyfforddiant ledled Gwent.                                                 
Yn ogystal â hynny, amlygwyd hefyd ofynion hyfforddiant y gweithlu yn flaenoriaeth yn ystod y cyd-gomisiynu sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Ngwent. Mae comisiynwyr yn bwriadu gweithredu model newydd darparu gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Mynediad Agored a Rhagnodi Cymunedol, a bydd angen gweithlu cymwys ledled Gwent er mwyn i hyn lwyddo.          
            

Amcanion

Prif amcan y Strategaeth Hyfforddiant oedd nodi ymagwedd gydlynol a chyson at gynllunio  a chyflwyno datblygiad y gweithlu ar gyfer y Sector Camddefnyddio Sylweddau yng Ngwent.         

Pwyntiau Arfer Da sy’n codi o’r Strategaeth Hyfforddiant 

Ar y cyfan, mae’r Strategaeth hyfforddiant yn cydnabod manteision ymagwedd gyson at ddatblygu’r gweithlu. Mae’n hyrwyddo mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi a datblygu mewn modd systematig, gan ddefnyddio’r Model 5 Cam.

  1. Mae’r Strategaeth yn argymell defnyddio safonau DANOS i fesur gallu’r gweithlu.                          
  2. Mae’r Strategaeth yn argymell datblygu’r proffiliau rôl safonedig ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr. Mae hyn yn mynnu proses o gyfnerthu’r nifer helaeth o broffiliau rôl presennol.
  3. Mae’r Strategaeth yn awgrymu bod hyfforddiant a gomisiynir yn cael ei ddynodi i safonau DANOS. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy ofyn i ddarparwyr hyfforddiant am dystiolaeth y defnyddir DANOS mewn proffiliau rôl, ac y darperir ar gyfer hyfforddiant a datblygiad staff.
  4. Mae’r Strategaeth yn nodi y dylid ymgorffori DANOS  mewn cyfnodau cynefino a hyfforddiant craidd.

Mae asiantaethau camddefnyddio sylweddau Gwent yn hynod ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig ag asesu gallu. Maent yn cydnabod bod hyfforddiant ac asesu gallu yn ddau wahanol beth. O ganlyniad, mae’r Strategaeth Hyfforddiant yn nodi Strategaeth Asesu bellach. Mae’r Strategaeth Asesu yn argymell:                

  1. Bod Gwent yn penderfynu pa opsiwn asesu sy’n briodol i’r gweithlu            
  2. Bod Gwent yn sefydlu cytundeb lleol am y math o dystiolaeth sy’n ddigonol i ddangos gallu sylfaenol i’r rheiny sydd eisoes yn ymarfer ar lefel uwch.

Yn bwysig, mae gan y Strategaeth Hyfforddiant fecanwaith ar gyfer gwerthuso’r Strategaeth yn y dyfodol, er mwyn mesur ei llwyddiant.    

Heriau Allweddol

Wrth ddatblygu’r Strategaeth, canfuwyd bod Asiantaethau a Darparwyr Gwasanaeth yn amharod i roi gwybodaeth. Roeddent yn teimlo eu bod wedi rhoi gwybodaeth debyg sawl gwaith o’r blaen heb unrhyw fantais amlwg. Roedd hyn yn wir yn benodol gyda Darparwyr Gwasanaeth bach heb gymaint o adnoddau iddynt gyfranogi yn natblygiad y Strategaeth. Rhoddwyd anogaeth a chefnogaeth i Asiantaethau a Darparwyr Gwasanaeth er mwyn iddynt gyfrannu at ddatblygu’r Strategaeth.                                                  
Cafwyd amharodrwydd i gyfrannu at ddatblygu’r Strategaeth hefyd gan fod llawer o Asiantaethau a Darparwyr Gwasanaeth wedi drysu ynghylch DANOS, beth y mae’n ei olygu i’w sefydliad a hefyd mae’r iaith a ddefnyddir yn eu rhwystro.                                         
Dim ond cam cyntaf y broses yw comisiynu’r Strategaeth Hyfforddiant ac nid oes amheuaeth mai rhoi’r Strategaeth ar waith fydd yr her fwyaf! Gwneir hyn drwy Weithgor y Rhaglen Camu i Mewn ar Gyffuriau a fydd yn adolygu’r argymhellion a wnaed yn y Strategaeth Hyfforddiant ac yn arwain wrth gyflwyno’r cynllun gweithredol fel y’i disgrifir yn y Strategaeth. Caiff y Strategaeth ei adolygu hefyd ar lefel fwy strategol gan Grŵp Datblygu Gweithlu Cymru Gyfan.                        

Cyngor Gorllewin Morgannwg ar Gamddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol (WGCADA) a Defnyddio DANOS

Mae WGCADA wedi defnyddio safonau DANOS i helpu i lunio disgrifiadau swydd. Amgaeir rhai enghreifftiau o’r ffordd mae WGCADA wedi cyflawni hyn mewn sawl gwahanol swydd. Mae WGCADA yn annog disgrifiadau swydd i gynnwys y cysylltiadau â DANOS ac er hoffem gyhoeddi pob swydd wag, mae croeso penodol i’r rheiny â DANOS’


Teitl Swydd

Yn Adrodd I’r

Yn Gyfrifol Am

Gradd/Cyflog

Lleoliad

Oriau

Hyd    

Disgrifiad Swydd

Rheolwr Ardal

Prif Weithredwr

Rheoli Asiantaeth W.G.C.A.D.A. yn Abertawe

35 £26,703 i .37 £28,179.

Abertawe

 

 

llwythwch i lawr

Gweithiwr Rhaglen Camu i Mewn ar Gyffuriau           

 

 

Pwynt Graddfa 23 – 25 (£18,993 – 20,235)

Safle Newydd Castell-nedd

 

 

llwythwch i lawr

Swyddog Gweinyddu    

 

 

Pwynt Graddfa .13 - 15

 

37.5 yr wythnos

Contract 12 Mis

llwythwch i lawr

Young Persons Substance Misuse Worker            

 

 

 

 

 
  Work2Health Logo    CAIS Logo   WGCADA Logo   WAG Logo